Teyrnged George Murray

2014 March 19

Created by Nia-Marie Subahan Murray 9 years ago
Magwyd George ym Mhencei yn un o chwech o blant ac meddai ‘...un o amseroedd hapusa’ fy mywyd...’ gan adrodd fel y byddent fel plant yn ‘sgota, hel cregyn duon a chocos i swper, a chael bod yn rhan o gymuned forwrol y dre. Daeth y cyfnod yma i ben yn sydyn pan gollodd ei dad yn 8 oed gan wedyn symud i fyw i Heol Newydd ac yn fuan wedyn i 5 Pensyflog sydd yn parhau i fod yn nwylo’r teulu. Dechreuodd ei yrfa fel peiriannydd adeiladol gyda weldio yn bennaf grefft ganddo ym McKensie & Brown, Caernarfon ac wedyn i Ffowndri Brittania a Ffowndri Glaslyn ym Mhorthmadog. Mae ei ôl yn parhau ar y dre a’r ardal sef Pont y Dora, peipiau Cwm Dyli a giatiau haearn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy i enwi ond ychydig o’i weithiau. Yn ystod y cyfnod hwn o’i fywyd gwasanaethodd yn y National Service gan deithio pellteroedd byd a threulio cyfnod hirach yng Nghyprus. Cyfarfod a phriodi Jane yn 1959 gan ddechrau eu bywyd priodasol yng Nghricieth a chael dau o blant Jon a Rhian. Newidiodd ei yrfa i fod yn ddyn yswiriant gyda Chwmni Pearl gan ddod i adnabod llawer mwy o bobl ei fro. Mae Jon yn dal i gofio sŵn y peiriant ‘Ready- Reckoner’ yn ratlio a thincian yn nosweithiol wrth i George wneud ei gyfrifon dyddiol. Daeth trallod ac ergyd syfrdanol yn 1973 pan gollwyd Rhian Bach yn 10 oed gan chwalu eu byd fel teulu. Ond daeth haul ar fryn gyda genedigaeth Nia-Marie yn 1977 pan oedd Jon bron yn 18 oed. Yn wir bu Nia-Marie yn atgyfodiad i’r teulu gan gael y cyfle i fagu merch hyfryd, llawn bwrlwm a daeth hapusrwydd cynnes yn ôl i’r aelwyd. Ychwanegwyd at yr hapusrwydd gyda dyfodiad Cedron a Mian a rhoi cyfrifoldeb newydd o ddod yn Daid flynyddoedd yn ddiweddarach. Dilynodd amrywiol lwybrau gyrfa gan gynnwys busnes weldio haearn a dur, perchen a rhedeg Siop Chips, Heol Fadog (Allports heddiw), perchennog Gwesty Min-y-Gaer, Cricieth ac yn ddiweddarach yn berchen Becws Kirkhopes gyda Jane, Jon a Nia, hyd ei ymddeoliad. Balchder mawr gan George a’r teulu ychydig dros flwyddyn yn ôl oedd cael dathlu priodas Nia a Halim yn Neganwy ac yna eu gweld yn mudo i’r gogledd ac ymgartrefu yn Fflatiau’r Doc yng Nghaernarfon chwe’ mis yn ôl. Bu canu yn ei waed ers pan yn ifanc iawn gan gymryd rhan yng ngweithgareddau corawl Eglwys Sant Ioan ac ambell ddeuawd a thriawd yn ôl trigolion sy’n cofio’r cyfnod. Parhau wnaeth y canu a bu George yn aelod ffyddlon i sawl côr meibion yr ardal dros gyfnod o ddeugain mlynedd sef Côr Meibion Porthmadog, Y Moelwyn ac yn ddiweddarach y Brythoniaid. Roedd y gallu gan George i droi ei law at unrhyw beth gan gynnwys tynnu a phrosesu lluniau, arbenigo ym myd Technoleg Gwybodaeh a dod yn hyddysg ym myd y cyfrifiadur. Rhywbeth nad apeliodd rhyw lawer i George oedd garddio – ond yn y dair mlynedd diwethaf fe drôdd at yr ardd gan fwynhau tyfu a rhannu ei gynnyrch. Gyda balchder mawr y cyfrannodd fel Cynghorydd lleol dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain, gan gynnwys ei gyfraniad gwirfoddol o arwain materion dydd i ddydd Y Ganolfan am flynyddoedd maith. Bu hefyd yn llywodraethwr cefnogol yn Ysgol Eifion Wyn. Taid Heno ar noson dy huno Angylion a ddaeth i’th gludo Er i haul dy fywyd fachludo, Mor ddisglair dy seren di yno. Nid oes un gair i ddisgrifio Y loes o’th golli’n dylifo - Mor addfwyn y cefaist ti lithro I’th haf lle’r wyt yn tramwyo. Cedron